Notifications
You must be signed in to change notification settings - Fork 10

vpn-or-proxy.ftl
51 lines (48 loc) · 9.22 KB

vpn-or-proxy.ftl
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
# This Source Code Form is subject to the terms of the Mozilla Public
# License, v. 2.0. If a copy of the MPL was not distributed with this
# file, You can obtain one at http://mozilla.org/MPL/2.0/.
### URL: https://www-dev.allizom.org/products/vpn/more/vpn-or-proxy/
# HTML page title and main title
vpn-or-proxy-the-difference-between = Y gwahaniaeth rhwng VPN a dirprwy gwe
# HTML page description and intro
vpn-or-proxy-vpns-and-proxies-are = Mae VPN a dirprwyon yn atebion sy'n darparu preifatrwydd a diogelwch ar-lein. Dyma sut mae'r rhain yn eich diogelu a sut i ddewis yr un gorau.
vpn-or-proxy-virtual-private-networks = Mae rhwydweithiau preifat rhithwir (VPN) a dirprwyon gwe diogel yn atebion ar gyfer gwell preifatrwydd a diogelwch ar-lein, ond gall fod yn ddryslyd darganfod pa un sy'n iawn i chi. Dyma gip ar sut mae'r gwasanaethau hyn yn eich amddiffyn a sut i wneud y dewis gorau ar gyfer pan fyddwch chi ar-lein.
vpn-or-proxy-stop-isps-from = Atal ISPs rhag ysbio arnoch chi
# Variables
# $firefox (url) - https://www.mozilla.org/firefox/new/
# $etp (url) - https://blog.mozilla.org/products/firefox/control-trackers-with-firefox/
# $trackers (url) - https://blog.mozilla.org/internet-culture/mozilla-explains/what-is-a-web-tracker/
vpn-or-proxy-when-you-use-firefox = Pan fyddwch yn defnyddio { -brand-name-firefox }, mae Gwarchod Tracio Uwch yn rhwystro llawer o dracwyr gwe trydydd parti rhag eich dilyn o amgylch y we. Ond dyma ffaith ddiddorol: gall eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) rydych yn eu talu am gysylltiad rhyngrwyd - eich gwylio a'ch tracio o hyd.
vpn-or-proxy-because-your-internet = Oherwydd bod eich traffig rhyngrwyd yn symud yn ôl ac ymlaen o'ch dyfeisiau (cyfrifiadur, ffôn, teledu, tabled) trwy'ch ISP, maen nhw'n gallu gweld ble rydych chi'n mynd ar-lein. Gall ISP weld pa wefannau rydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir rydych chi arnyn nhw, eich lleoliad a gwybodaeth am eich dyfeisiau. Efallai na fydd eich ISP yn gwybod manylion yr hyn a wnaethoch ar y gwefannau hynny (fel yr hyn y gwnaethoch ei brynu, chwilio amdano neu ei ddarllen) diolch i amgryptio, ond gallan nhw ddyfalu ar sail y gwefannau yr aethoch chi iddyn nhw. Mae modd defnyddio’r data personol hwnnw i greu proffiliau manwl amdanoch chi. Pam fyddai ISPs yn gwneud hynny? Yn fyr: mae'r data hwn yn werthfawr.
vpn-or-proxy-isps-can-use = Gall ISPs ddefnyddio'r wybodaeth hon ar gyfer eu hysbysebion eu hunain neu ar gyfer cyfleoedd ariannu sy'n gallu cynnwys rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon sydd â diddordeb mewn cloddio data, marchnata a hysbysebu wedi'i dargedu, sy'n golygu llai o breifatrwydd a mwy o dracio. Nid yw pori mewn modd preifat yn atal ISPs rhag gweld ble rydych chi'n mynd ar-lein. Ond gall anfon eich traffig gwe trwy ddirprwy gwe neu VPN ei gwneud yn llawer anoddach.
vpn-or-proxy-when-should-you = Pryd ddylech chi ddewis VPN neu ddirprwy diogel?
vpn-or-proxy-vpns-and-secure = Mae gan VPN a dirprwyon gwe diogel nodau yn gyffredin: maen nhw'n sicrhau cysylltiadau. Maen nhw'n gallu ac yn gwneud hynny drwy guddio'ch cyfeiriad IP gwreiddiol a diogelu traffig gwe rydych chi'n ei anfon rhyngoch chi a'ch VPN neu'ch darparwr dirprwy diogel. Ond pryd fyddech chi eisiau defnyddio VPN o gymharu â dirprwy?
vpn-or-proxy-secure-web-proxy = Dirprwy gwe diogel: diogelwch ar lefel porwr
vpn-or-proxy-a-secure-web = Mae dirprwy gwe ddiogel yn gweithio ar gyfer tasgau i'w gwneud dim ond yn eich porwr. Gall hyn fod yn nifer o bethau fel siopa, talu biliau, mewngofnodi i'r cyfryngau cymdeithasol a darllen e-byst. Mae dirprwy gwe ddiogel yn gweithredu fel cyfryngwr rhwng eich porwr a'r rhyngrwyd. Bydd eich data pori gwe yn pasio trwy dwnnel diogel i'r rhyngrwyd yn uniongyrchol o'ch porwr, gan guddio'ch cyfeiriad IP. Felly, nid yw'r gweinydd gwe rydych chi'n cysylltu ag ef yn gwybod yn union ble rydych chi yn y byd. Ac mae hynny'n eich gwneud chi'n anoddach tracio a thargedu.
# Variables
# $url (url) - https://www.consumer.ftc.gov/articles/0014-tips-using-public-wi-fi-networks
vpn-or-proxy-a-proxy-is-useful = Mae dirprwy yn ddefnyddiol pan fyddwch yn pori'r we ar WiFi cyhoeddus. Pan fydd dirprwy wedi'i alluogi, bydd yn atal clustwrandawyr ar yr un rhwydwaith rhag ysbïo ar eich gweithgaredd pori neu ddarllen eich trafodion ar wefannau heb eu hamgryptio. Mae'n swnio'n ddiniwed, ond gall rhwydweithiau WiFi cyhoeddus fod fel drysau cefn i hacwyr.
# Variables
# $fpn (url) - https://fpn.firefox.com
vpn-or-proxy-firefox-private-network = Mae { -brand-name-firefox-private-network } yn estyniad porwr hawdd ei osod sy'n darparu twnnel diogel, wedi'i amgryptio i'r we i ddiogelu cysylltiad eich porwr yn unrhyw le rydych chi'n defnyddio { -brand-name-firefox }. Mae'n gyflym ac yn hawdd ei droi ymlaen pryd bynnag y mae ei angen arnoch ar gyfer diogelwch ychwanegol yn eich porwr.
vpn-or-proxy-vpns-devicelevel-protection = VPN: diogelwch ar lefel dyfais
vpn-or-proxy-vpns-do-more = Mae VPN yn gwneud mwy na dirprwyon yn yr ystyr bod dirprwy yn diogelu yr hyn rydych chi'n ei wneud yn eich porwr yn unig, ond mae VPN yn amddiffyn eich holl draffig, gan gynnwys eich porwr, ble bynnag mae gennych chi VPN wedi'i osod a'i alluogi. Mae VPN yn darparu diogelwch a phreifatrwydd ychwanegol ar gyfer eich holl weithgaredd ar-lein - ystyriaeth bwysig os ydych chi am gadw'ch gweithgaredd i chi'ch hun a'i gwneud hi'n anoddach i dracwyr data llwglyd ac ISPau greu proffil ohonoch chi yn cynnwys eich holl ddyfeisiau, eich ffôn, cyfrifiadur a thabled.
vpn-or-proxy-a-vpn-works = Mae VPN yn gweithio trwy greu “twnnel” diogel rhwng eich dyfais a'r rhyngrwyd yn gyffredinol. Mae'n diogelu eich preifatrwydd mewn dwy ffordd allweddol:
vpn-or-proxy-concealing-your-ip = Cuddio'ch cyfeiriad IP, diogelu eich hunaniaeth a chuddio'ch lleoliad.
vpn-or-proxy-encrypting-your-traffic = Amgryptio'r traffig rhyngoch chi a'ch darparwr VPN fel na all unrhyw un ar eich rhwydwaith lleol ei ddehongli na'i addasu.
# Variables
# $mozvpn (url) - https://www.mozilla.org/products/vpn/
# $countries (number) - number of countries where Mozilla VPN has servers, e.g. "30"
vpn-or-proxy-a-vpn-also = Mae VPN hefyd yn cynnig diogelwch ar gysylltiadau WiFi agored a chyhoeddus. Gall WiFi agored fod yn beryglus, ac mae'n amhosibl bod yn siŵr nad yw rhywun arall yn cysylltu â'r un rhwydwaith i edrych ar yr hyn rydych chi'n ei wneud. Hyd yn oed os yw'ch traffig wedi'i amgryptio, gallan nhw weld pa wefannau rydych chi'n ymweld â nhw o hyd. Ac os ydych chi'n defnyddio ap nad oes ganddo amgryptio - a hyd yn oed heddiw, mae yna lawer sydd ddim - yna maen nhw'n gallu gweld popeth rydych chi'n ei wneud yn yr ap hwnnw. Mae { -brand-name-mozilla-vpn } yn wasanaeth cyflym, diogel a dibynadwy a all helpu i gau'r bwlch diogelwch i chi. Mae { -brand-name-mozilla-vpn } hefyd yn caniatáu i chi ddewis eich “lleoliad” (o le mae'n ymddangos bod eich traffig yn dod) o fwy na { $countries } gwlad.
vpn-or-proxy-choose-a-trustworthy = Dewiswch wasanaeth dibynadwy
# Variables
# $cnet (url) - https://www.cnet.com/news/why-you-should-be-skeptical-about-a-vpns-no-logs-claims/
# $pcmag (url) - https://www.pcmag.com/news/7-vpn-services-found-recording-user-logs-despite-no-log-pledge
vpn-or-proxy-the-most-important = Y peth pwysicaf i'w ystyried wrth ddewis naill ai VPN neu wasanaeth dirprwy yw dewis cwmni dibynadwy. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall yr amodau rydych chi'n cytuno iddyn nhw. Mae llawer yn honni eu bod yn wych ac yn canolbwyntio ar breifatrwydd, ond mae nifer fawr ohonyn nhw'n methu â chyrraedd eu haddewid. Nid yw pob gwasanaeth dirprwy a VPN yn ddiogel ac yn breifat. Bydd rhai yn cofnodi eich gweithgareddau ar-lein fel y gallan nhw werthu eich data a'ch manylion i gwmnïau marchnata eu hunain. Bydd gwasanaethau eraill yn ceisio eich argyhoeddi i osod meddalwedd maleisus ar eich dyfeisiau.
# Variables
# $mozvpn (url) - https://www.mozilla.org/products/vpn/
# $fpn (url) - https://fpn.firefox.com/
# $principles (url) - https://www.mozilla.org/privacy/principles/
# $mission (url) - https://www.mozilla.org/mission/
# "done the legwork" means collecting information or doing research in preparation for a project, that involves much walking or traveling about. Alternatives: "we've done the work" or "we've done the research"
vpn-or-proxy-weve-done-the = Rydym wedi gwneud y gwaith caled i sicrhau bod y  { -brand-name-mozilla-vpn } a'r { -brand-name-firefox-private-network } estyniad dirprwy yn parchu eich preifatrwydd go iawn, ac mae'n rhywbeth rydyn ni'n barod i'w gefnogi gyda'n enw da. Mae gan { -brand-name-mozilla } enw da am adeiladu cynnyrch sy'n eich helpu i gadw'ch manylion yn ddiogel. Rydym yn dilyn ein hegwyddorion Egwyddorion Preifatrwydd Data hawdd eu darllen, sy'n caniatáu inni ganolbwyntio ar y wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu gwasanaeth yn unig. A chan ein bod yn cael ein cefnogi gan gwmni sy'n cael ei yrru gan genhadaeth, gallwch ymddiried y bydd yr arian rydych chi'n eu gwario ar gyfer y cynnyrch hwn nid yn unig yn sicrhau bod gennych ddiogelwch o'r radd flaenaf, ond hefyd yn gwneud y rhyngrwyd yn well i bawb.