Skip to content

Latest commit

 

History

History
141 lines (97 loc) · 5.93 KB

CY.md

File metadata and controls

141 lines (97 loc) · 5.93 KB

Testun i Leferydd Prifysgol Bangor

Ynglŷn â'r Project

Mae'r storfa (repo) hon yn cynnwys y gweinydd lleol, cod agored, sydd y tu ôl i https://tts.techiaith.cymru, ynghŷd â fersiwn cychwynnol o'n modelau Testun i Leferydd diweddaraf.

Ar hyn o bryd mae un llais ar gael, ond bwriadwn ehangu'r nifer o leisiau wrth i fwy o ddata gael ei ryddhau. Dewch yn ôl am ragor o wybodaeth yn gyson gan y bydd angen i chi ailadeiladu delwedd docker unwaith y bydd y lleisiau newydd ar gael.

Cychwyn Arni

I gael copi lleol ar waith dilynwch y camau hyn.

Rhagofynion

Mae Docker-compose bellach yn cael ei gludo gyda DockerDesktop ynghlwm, fodd bynnag os nad yw'r ategyn docker-compose ar gael yn eich gosodiad yna dilynwch y cyfarwyddiadau gosod.

Gosod

  1. Cloniwch y storfa

    git clone https://github.com/techiaith/docker-coqui-tts-cy.git
  2. Adeiladwch a rhedwch ddelwedd docker

    docker compose up -d --build
  3. Er mwyn osgoi ailadeiladu'r cynhwysydd ar gyfer rhediadau dilynol

    docker compose up -d

Wrth gyflwyno bygiau/issue a fyddech cystal â chynnwys eich allbwn log. I symleiddio'r broses o gyflwyno issue, a fyddech cystal â dympio'ch log cyfan a'i atodi i'r issue ynghyd â manylion eich system weithredu a'ch ffurfweddiad caledwedd.

docker compose logs > my-well-named-error.log

Ymwadiad

Ysgrifennwyd y feddalwedd hon yn benodol at redeg o fewn amgylchedd gweinydd debian gyda GPU NVIDIA. Ni ellir, felly, gwarantu y bydd y feddalwedd yn adeiladu'n llwyddiannus ar systemau gweithredu eraill. Mae'n bosibl rhedeg y feddalwedd ar CPU ond bydd yr amser rhedeg yn cynyddu'n fawr.

Mae'r broses adeiladu wedi'i phrofi ar sglodion Intel sy'n rhedeg Ubuntu 20.04 a macOS Monterey 12.5.x.

Gallwch, fodd bynnag, ymweld â https://tts.techiaith.cymru i roi cynnig ar y feddalwedd. Mae croeso hefyd i chi lenwi adroddiad bygiau gydag unrhyw broblemau y dewch ar eu traws.

Defnydd

I weld yr ap ar waith ewch i https://localhost:5002 a rhowch gynnig arni!

Product Name Screen Shot

Trwy deipio yn y blwch a chlicio ar y swigen siarad gallwch glywed ein llais testun i leferydd niwral cyntaf.

Product Name Screen Shot

Unwaith y bydd y sain wedi'i chynhyrchu dylai chwarae'n awtomatig, fodd bynnag gall gosodiadau porwr olygu y bydd angen i chi wasgu'r botwm chwarae er mwyn clywed y llais.

Mae’r lleisiau’n ddwyieithog ac o’r herwydd gallwch roi testun Cymraeg, Saesneg neu gymysg i mewn, dylid nodi, fodd bynnag, ei bod yn anoddach i'r llais ynganu lleferydd anffurfiol neu leferydd sydd wedi ei gam-ffurfio.

Creu ffeil sain leol

Unwaith y byddwch wedi adeiladu'r cynhwysydd bydd ffolder newydd, o'r enw 'exports', yn cael ei chreu yng nghyfeiriadur gwraidd (root) yr ystorfa.Bydd hyn yn caniatáu ichi greu ffeil WAV leol, trwy weithredu'r gorchymyn isod. Bydd yr allbwn wedyn yn cael ei gadw yn y ffolder 'exports'.

Rhoddir enw ar hap i'r ffeiliau sy'n cael eu hallforio ac felly dylech ddidoli cynnwys y ffolder allforio yn ôl dyddiad er mwyn gweld y ffeiliau mwyaf newydd yn hawdd. Ar ôl eu hallforio gallwch ailenwi'r ffeiliau gan roi enw mwy cyfleus iddynt os dymunwch.

docker compose run web python uti_speech.py "Gymrodd dipyn o amser i mi ddatblygu llais, a nawr mae gen i, nid wyf am gadw yn dawel"

Map ffordd

  • Ychwanegu lleisiau wedi'u recordio'n broffesiynol
    • Benyw Ddeheuol
    • Benyw Ogleddol
    • Gwryw Deheuol
    • Gwryw Gogleddol
  • Ychwanegu cyfranwyr amatur
    • Benyw Ogleddol
    • Gwryw Deheuol
    • Gwryw Gogleddol
  • Diweddaru'r UI i ymgorffori dewis llais

Gweler yr issues agored am restr lawn o nodweddion arfaethedig (a materion hysbys).

Cyfrannu

Cyfraniadau yw'r hyn sy'n gwneud y gymuned ffynhonnell agored yn lle mor anhygoel i ddysgu, ysbrydoli a chreu. Bydd unrhyw gyfraniadau a wnewch yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Os oes gennych awgrym a fyddai'n gwneud yr adnodd hwn yn well, fforchiwch y storfa a chrëwch pull request. Gallwch hefyd agor issue gyda'r tag "enhancement". Peidiwch ag anghofio rhoi seren i'r prosiect! Diolch eto!

  1. Creu Fforch
  2. Creu eich Cangen Nodweddion (Feature Branch) (git checkout -b feature/AmazingFeature)
  3. Cyflwyno (Commit) eich Newidiadau (git commit -m 'Add some AmazingFeature')
  4. Gwthio (Push) i’r gangen (git push origin feature/AmazingFeature)
  5. Agor Pull Request

Trwydded

Wedi'i ddosbarthu dan Drwydded MIT. Gweler LICENSE.txt am ragor o wybodaeth.

Cysylltu

Techiaith - @techiaith - techiaith@bangor.ac.uk - techiaith.cymru

Project Link: https://github.com/techiaith/docker-coqui-tts-cy

Cydnabyddiaeth a diolchiadau

Logo

Logo






Diolchwn i Lywodraeth Cymru am ariannu’r gwaith hwn fel rhan o brosiect Technoleg Cymraeg 2021-22.