Skip to content

techiaith/macsen-flutter

Repository files navigation

Macsen - Ap cynorthwyydd llais Cymraeg / Welsh language voice assistant app.

click here to read this page in English

Mae Macsen yn ap cynorthwyydd llais Cymraeg cod agored ar gyfer ffonau symudol a thabledi Android ac iOS. Mae’n bosib siarad ar lafar gyda ap Macsen mewn Cymraeg naturiol er mwyn ofyn iddo gwblhau tasgau neu ofyn am wybodaeth.

Rydyn ni’n defnyddio’r project hwn i ddangos beth allwn ni greu wrth ddatblygu technoleg lleferydd a deallusrwydd artiffisial Cymraeg. Rydym yn cyhoeddi’r cydrannau a’r adnoddau perthnasol yma yn agored yma ar GitHub, er mwyn i ddatblygwyr eraill hefyd fedru’u defnyddio. Rydyn ni wrthi yn gwneud ymchwil pellach i’w wella, a’i alluogi mewn sefyllfaoedd eraill.

Get it on Google Play

Sgiliau

Hyd yn hyn, mae gan ap Macsen 8 sgìl:

– Darllen y newyddion

– Adrodd am y tywydd

– Chwarae cerddoriaeth Cymraeg ar Spotify

– Gosod larwm

– Dweud yr amser

– Rhoi’r dyddiad

– Darllen brawddegau cyntaf erthyglau o Wicipedia Cymraeg

– Dangos rhaglenni teledu drwy gwefan Clic S4C

Pensaernïaeth Macsen yn syml

Mae ap Macsen yn defnyddio nifer o gydrannau gwahanol sy'n gweithredu ar y ddyfais a dros y we.

Wedi i chi ofyn ar lafar i Macsen am gymorth, defnyddir yn gyntaf adnabod lleferydd Mozilla DeepSpeech i drosi’r hyn yr ydych yn ei ddweud i destun.

Yn dilyn hynny, mae technoleg adnabod bwriad, fel y gwelir mewn sgwrsfotiaid, yn ceisio deall o'r testun os yw'r cais am newyddion, y tywydd, cerddoriaeth neu un o’r sgiliau eraill.

Wedi iddo ddeall y bwriad, mae'r meddalwedd yn ceisio ffurfio ymateb drwy estyn data o API drydydd parti (e.e. tywydd heddiw o ddarpariaeth API OpenWeatherMap) ac/neu cynhyrchu brawddegau iaith naturiol sy'n cynnwys y wybodaeth a ofynnwyd am.

Yna er mwyn ateb ar lafar, mae’n gwneud hynny drwy ddefnyddio technoleg testun-i-leferydd Cymraeg a ddwyieithog i lefaru’r ymateb priodol.

Mae rhagor o wybodaeth am y technolegau hyn a’r Gymraeg ar gael yn y Llawlyfr Technolegau Iaith a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Defnyddio cod Macsen

Mae holl adnoddau Macsen, o'r cod Flutter yn y repo hwn, i'r sgriptiau hyfforddi modelau adnabod lleferydd a bwriad, i'r lleisiau testun-i-leferydd yn god agored ac ar gael i ddatblygwyr a sefydliadau i addasu ac ehangu Macsen eu hunain, defnyddio o fewn sgwrfotiaid a cynorthwyon eraill neu unrhyw fath o broject trawsnewid digidol.

Ewch i'r ddogfennaeth ar gyfer datblygwyr os hoffech chi ddysgu rhagor.

Cyfrannu lleisiau

Rydym yn dal wrthi yn gwella’r nodweddion lleferydd, ac os hoffech chi, gallwch ein helpu i’w wella yn y dyfodol drwy gyfrannu recordiadau o’ch llais.

Gallwch wneud hyn o fewn yr ap drwy glicio ar Hyfforddi yno. Bydd hyn yn eich arwain i ddarllen yn uchel y brawddegau sy’n cael eu hadnabod ar gyfer pob sgìl yn yr ap.

Byddwn yn defnyddio’r recordiadau hyn i greu setiau datblygu a setiau profi ar gyfer hyfforddi’r adnabod lleferydd.

Os ydych am gyfrannu mwy na hyn, ewch i wefan CommonVoice Mozilla i recordio brawddegau ar gyfer y casgliad mawr o recordiadau.

Diolchiadau

Ariannwyd yr ap a’r gwaith adnabod lleferydd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn diolch iddyn nhw ac i’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn cyfrannu eu lleisiau i wella technoleg lleferydd.

Diolch hefyd i Golwg360, Wicipedia ac i S4C am eu cymorth a chydweithrediad.

Cydnabyddiaeth a Chyfeirio

Os defnyddiwch chi'r adnodd hwn, gofynnwn yn garedig i chi gydnabod a chyfeirio at ein gwaith. Mae cydnabyddiaeth o'r fath yn gymorth i ni sicrhau cyllid yn y dyfodol i greu rhagor o adnoddau defnyddiol i'w rhannu.

Gwelir rhagor o wybodaeth ar http://techiaith.cymru/macsen